P-05-865 Dylid gwarantu bod dewisiadau sy’n seiliedig yn llwyr ar blanhigion ar bob bwydlen y sector cyhoeddus, i ddiogelu hawliau figaniaid ac er budd ein hiechyd, yr amgylchedd ac anifeiliaid, Gohebiaeth - Cyngor Gwynedd at y Cadeirydd, 28.08.19

 

Cyfeiriaf at y ddeiseb uchod a hoffwn gynnig sylwadau Cyngor Gwynedd am yr hyn a ddarperir mewn ysgolion.

 

Cadarnhaf ein bod yn cynnig pryd llysieuol ar y fwydlen Cynradd lle bydd disgyblion yn dewis o flaen llaw os ydynt yn dymuno pryd llysieuol.

Yn yr Uwchradd mae dewis llysieuol ar gael yn ddyddiol yn ystod amser cinio.

 

Hyd yma, nid oes galw wedi bod i ddarparu prydau fegan (1 cais a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn diwethaf drwy’r Sir gyfan am opsiwn fegan). Mi drafodwyd hyn gyda’r rhieni a gwneud addasiadau i’r fwydlen i gyfarch y galw ar gyfer y teulu hwn.

Mi fyddwn yn trafod y galw gyda rhieni unigol pan mae yn codi.

 

Cofion,